Gwbert, Aberteifi, Gorllewin Cymru, SA43 1PR
01239 623637
E-bostiwch ni

Anifeiliaid y Fferm

Mae gennym lawer o anifeiliaid fferm traddodiadol ym Mharc y Fferm, sy’n cynnwys ein praidd mawr o ddefaid cyfeillgar, moch trachwantus, geifr egr, merlod chwareus, ieir hapus, buchod sy’n caru cnoi cil ac asynnod llawen (er nad ydynt yn edrych felly bob amser!). Mae gennym alpacas annwyl hefyd, yn ogystal â chwningod annwyl a moch cwta prydferth.

Cadwch lygad allan am anifeiliaid bach newydd trwy gydol y flwyddyn. Rhaid gwylio’r ŵyn bach yn prancio yn y caeau yn ystod y gwanwyn, a chewch fodd i fyw yn gwylio’r perchyll sy’n sochian yn ffroeni trwy’r caeau am fwyd a’r ebolion egnïol yn rasio o gwmpas.

Ceisiwn gadw ein hanifeiliaid mewn amgylchedd mor naturiol â phosibl wrth barhau i’w cadw’n ddiogel ac yn warchodedig, er mwyn gallu dod o hyd i bob un ohonynt yn eu llociau awyr agored wrth i chi gerdded o gwmpas Parc y Fferm lle mae digon o laswellt a lle awyr agored ar eu cyfer.

Dysgwch fwy am ein hanifeiliaid fferm o’n harwyddion deongliadol sydd i’w gweld o gwmpas y daith gerdded gerllaw lloc pob anifail. Gallwch hefyd fwydo rhai o’n hanifeiliaid trwy brynu bwyd anifeiliaid o’n Desg Fynedfa.