Gwbert, Aberteifi, Gorllewin Cymru, SA43 1PR
01239 623637
E-bostiwch ni

Caffi

open_daily_cafe

Mwynhewch bryd bach o fwyd yng nghaffi Parc y Fferm gyda’i olygfeydd gwych dros Foryd Teifi ac Ynys Aberteifi. Mae digon o le i eistedd dan do, neu hwyrach y bydd yn well gennych eistedd yn yr awyr agored i fwynhau’r heulwen ar ein patio mawr sy’n edrych dros yr ardal chwarae i ddiddanu’r plant!

Rydym yn falch o ddefnyddio cynnyrch a chyflenwyr Cymreig ble bynnag y bo’n bosibl. Gweinwn frechdanau, baguettes, paninis a thatws pob ffres ynghyd â chawliau cartref a phrydau ysgafn. Mae dewis o de, coffi, diodydd oer, cwrw a gwin ar gael hefyd. Hwyrach y cewch eich temtio i gael hufen iâ neu un o’n cacennau cartref blasus. Cynigiwn fwydlen i blant hefyd, a dydyn ni ddim wedi anghofio am ein hymwelwyr bychain i barc y fferm – rydym yn hapus i gynhesu bwyd babi a photeli ac mae gennym ddigon o gadeiriau uchel.

Ceisiwn ddarparu ar gyfer alergenau a chynigiwn ddewisiadau heb glwten a llaeth. Gofynnwch am weld ein rhestr alergenau neu ewch i siarad ag aelod o staff os oes gennych unrhyw ymholiadau cyn rhoi’ch archeb. Gwnawn ein gorau i ddarparu ar eich cyfer.

Rydym ar agor bob dydd o 10.00am i 5.00pm, gan weini’n bwydlen lawn tan 4.00pm ac yna byrbrydau, cacennau a diodydd tan 5.00pm.

Mae ein caffi ar agor i’r cyhoedd yn ogystal ag i ymwelwyr Parc y Fferm. Nid ydym yn codi’r ffi fynediad i oedolion sy’n defnyddio’r caffi ond rydym yn codi am unrhyw blant sydd gyda nhw gan fod hyn yn eu galluogi i ddefnyddio’r ardaloedd chwarae wrth i chi fwynhau’ch pryd. Gwnewch yr aelod o staff wrth y fynedfa’n ymwybodol o’ch bwriad i ddefnyddio dim ond y caffi.

Mae croeso i grwpiau ymweld â chaffi Parc y Fferm, boed hynny am goffi a chacen neu am bryd amser cinio. Cysylltwch â ni i gael manylion.

Sylwch nad ydym yn caniatáu cŵn i’r caffi dan do ond mae croeso mawr iddynt ar batio awyr agored y caffi lle darparwn bowlenni o ddŵr.

page-icon-dog
cafe-food-hygiene