Gwbert, Aberteifi, Gorllewin Cymru, SA43 1PR
01239 623637
E-bostiwch ni

Ein Stori Ni

Cwmni teuluol ydyn ni i bob pwrpas ar Barc Fferm Arfordir Ynys Aberteifi, sy’n cael ei redeg gan y perchnogion Lyn ac Ellen Jenkins, gyda’u merch, Joanne, a’i gŵr hithau, David ac mae eu dau blentyn hwythau, Cerys a Megan, bob amser yn awyddus i gynnig help llaw.

Mae ein teulu wedi bod yn ffermio yn ardal Aberteifi ers yr 17eg ganrif, ond daethom i fferm 217 erw Clyn-Yr-Ynys am y tro cyntaf ym 1884, pan rentodd Daniel Jenkins y fferm ar brydles gan ystâd lleol, a dilynodd system ffermio gymysg draddodiadol. Prynodd mab Daniel, sef Joshua, y fferm ym 1918, felly mae Clyn-Yr-Ynys wedi bod ym mherchnogaeth y teulu ers dros 100 o flynyddoedd, trwy bum cenhedlaeth ac yn dal i gyfrif.

Dechreuon ni ganolbwyntio ar dyfu tatws newydd o ddiwedd y 1970au, ac ym 1982, prynodd Lyn y fferm 140 erw gerllaw ar hyd yr arfordir er mwyn ehangu cynhyrchiant. Fodd bynnag, golygai’r cynnydd mewn allforio, dyfodiad cnydau a dyfwyd dan blastig yn Lloegr a wrthbwysodd mantais ein Gwanwyn cynnar, ac archfarchnadoedd yn gwthio’r prisiau i lawr nad oedd hi’n ymarferol ffermio tatws newydd erbyn dechrau’r 1990au. Anogwyd ffermwyr i arallgyfeirio er mwyn goroesi, felly, gyda chefnogaeth y cyngor lleol, agorodd Lyn ac Ellen ran o’r fferm fel “Parc Fferm Arfordir Ynys Aberteifi” ym 1993.

OurStory

Wrth i niferoedd yr ymwelwyr dyfu, tyfodd Parc y Fferm hefyd.  O giât dro syml ar hyd pen y clogwyn yn costio dim ond £1 i’w ddefnyddio, symudwyd y fynedfa i’r ffermdy presennol lle gweinwyd te, coffi a chacennau cartref, tan i’r ganolfan i ymwelwyr agor yn 2004 gyda chaffi llawn, siop roddion ac ardal chwarae awyr agored. Ychwanegwyd y gwersyll yn 2011, gan alluogi ymwelwyr i aros ychydig yn hirach a mwynhau’r machlud haul godidog.

Yn 2012, ar ôl iddi astudio ym Mryste, teithio ac yna gweithio am flynyddoedd lawer yn Llundain, teimlodd Joanne hiraeth am y fferm y tyfodd i fyny arni a dychwelodd i fagu ei theulu ei hun a helpu rhedeg Parc y fferm. Rydym yn gyson ceisio gwella’n profiad i ymwelwyr gyda llawer o gynlluniau i’r dyfodol. Cadwch lygad ar y wefan hon…

*Hiraeth – a Welsh word which doesn’t translate into English. It is an acute longing for a place but is deeper than homesickness. The nostalgia, the yearning, the grief for lost places of your past.