Gwbert, Aberteifi, Gorllewin Cymru, SA43 1PR
01239 623637
E-bostiwch ni
Lleoliad Trawiadol
Gwylio Morloi
Anifeiliaid Fferm
Golygfeydd trawiadol
Chwilio am Ddolffiniaid
Ar agor
bob dydd
10 - 6
Croeso i

Barc Fferm Arfordir Ynys Aberteifi

Cafodd y parc hwn ei enw oherwydd ei olygfeydd trawiadol ar draws Ynys Aberteifi sydd ond 200 metr o’r lan. Yn ogystal, mae’r Parc Fferm unigryw hwn yn edrych dros aber afon Teifi a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, lle saif ar bentir prydferth yn rhan ddeheuol Bae Ceredigion. Mae’r ynys ei hun yn warchodfa natur breifat sy’n eiddo i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru.

Mae’r Parc ar ran o’n fferm, sef Clyn-yr-Ynys. Rydym wedi ffermio yn ardal Aberteifi ers yr ail ganrif ar bymtheg ac yng Nghlyn-yr-Ynys ei hun er 1884, cyfnod sy’n ymestyn dros 5 cenhedlaeth ac yn dal i gyfrif. Agorwyd Parc y Fferm ym 1993 a busnes teuluol ydym i bob pwrpas.

Dewch i ddweud helo wrth anifeiliaid ein fferm; mwynhewch gerdded ar hyd ein clogwyn wedi’i ffensio i’r pentir lle gallwch wylio’r morloi gwyllt sy’n bridio yn yr ogofâu islaw clogwyni Parc y Fferm; neu cadwch lygad am y dolffiniaid sy’n ymweld â ni’n rheolaidd; porwch drwy’n siop roddion, gyda’i dewis o deganau a llyfrau yn ogystal â chrefftau lleol a Chymreig; bydd y plant wrth eu boddau yn ein hardaloedd chwarae dan do ac awyr agored; ewch i gael pryd bach o fwyd yn ein caffi a mwynhau’r olygfa; neu arhoswch ychydig yn hirach yn ein gwersyll.

Cynllunio’ch Ymweliad

Amserau agor a phrisiau, cwestiynau cyffredin, hygyrchedd a sut i ddod o hyd i ni.

Anifeiliaid y Fferm

Dewch i gyfarfod a bwydo ein hanifeiliaid fferm cyfeillgar!

Bywyd Gwyllt

Gwyliwch y bywyd gwyllt lleol yn ei gynefin naturiol. Ewch i chwilio am y morloi a’r dolffiniaid!

Chwarae

Bydd y plant wrth eu boddau â’n hardaloedd chwarae dan do ac awyr agored.

Caffi

Ewch i gael tamaid i fwyta yn ein caffi a mwynhau'n cacennau cartref.

Gwersyll

Gall ymwelwyr bellach wersylla nesaf at Barc y Fferm – ewch ar-lein i gadw llain!

Gwersyll prydferth mewn ardal brydferth
Un o’r lleoedd gorau i ni fod iddo...rhaid i unrhyw un sy’n caru bywyd gwyllt ddod yma.
- Adolygiad ar TripAdvisor, Ebrill 2018