Gwbert, Aberteifi, Gorllewin Cymru, SA43 1PR
01239 623637
E-bostiwch ni

Eich Arhosiad

Dewch i wersylla gyda ni i gael golygfeydd godidog dros enau afon Teifi i Fae Ceredigion, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac wrth gwrs Ynys Aberteifi, ac mae parc Fferm llawn hwyl i’ch croesawu wrth y rhiniog!

Golygfa o'ch ystafell
Machlud haul godidog
Gwersyllwyr llon!

Mae ein gwersyll bach, sy’n rhan o’r Camping and Caravanning Club, ar ein fferm gerllaw Parc y Fferm. Ar ôl treulio diwrnod ym Mharc y Fferm yn ymweld ag anifeiliaid y fferm ac yn gwylio’r morloi, neu’n archwilio’r ardal o’n hamgylch gyda’i thraethau prydferth, ymlaciwch a gwyliwch yr haul yn machlud dros y môr. Mae’n bosibl y gwelwch chi ysgol o ddolffiniaid yn dangos eu doniau hyd yn oed!

Mae pethau i’w gwneud ar ôl i’r haul fachlud hefyd – ar noson dywyll a chlir, gall y sêr fod llawn mor ddeniadol â’r traethau ar ddiwrnodau heulog. Mae bron i 18% o Gymru’n mwynhau statws gwarchodedig oherwydd ei hawyr gyda’r nos, ac mae’r gwersyll rhwng dau safle Darganfod yr Awyr yn y Tywyllwch, a gydnabyddir i fod y safleoedd gorau yn y DU i wylio’r awyr gyda’r nos heb ormod o ymyrraeth gan lygredd goleuni.

Cyfleusterau

Gallwn ddarparu ar gyfer pebyll, faniau teithio, cartrefi ar olwynion a charafannau teithio ar leiniau glaswellt gyda thrydan neu heb drydan. Mae gennym floc cawodydd i ddynion a merched (ffi o 50c fesul cawod) a thoiledau i ddynion a merched. Mae cyfleusterau golchi llestri dan do, gwybodaeth i dwristiaid, rhewgell ar gyfer blociau iâ, mynediad i ddŵr yfed a mannau gwaredu gwastraff cemegol a dŵr gwastraff ar gael ar y safle.

Mae ein caffi trwyddedig ym Mharc y Fferm ar agor o 10:00am i 5:00pm bob dydd, yn gweini brecwast i’r gwersyllwyr tan 11:00am, ein bwydlen cinio o 11:30am tan 4.00pm ac yna byrbrydau, cacennau a diodydd tan 5.00pm.