Gwbert, Aberteifi, Gorllewin Cymru, SA43 1PR
01239 623637
E-bostiwch ni

Bywyd Gwyllt

Mae ein lleoliad mewn rhan o Arfordir Treftadaeth, ar bentir sy’n edrych dros warchodfa natur Ynys Aberteifi, sydd yn ei dro yn sefyll mewn dyfroedd a ddynodwyd yn rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion, sy’n gwneud Parc y Fferm yn gyrchfan gwych i weld pob math o fywyd gwyllt.

Gellir gweld cytref fach o forloi llwyd, sy’n bridio yn ogofâu môr clogwyni Parc y Fferm, yn y dyfroedd neu wedi’u llusgo i’r creigiau bron bob dydd y mae’r parc ar agor. Fel rheol, gwelir y morloi bychain, sy’n ffefryn gyda’r ymwelwyr, yn ystod mis Medi a mis Hydref. Y lle gorau i weld y creaduriaid bach chwilfrydig rhain yw o’r tir gan mai hwn sy’n cael yr effaith leiaf ar eu hamgylchedd.

Mae Bae Ceredigion yn gartref i boblogaeth breswyl fwyaf Ewrop o ddolffiniaid trwynbwl y gellir eu gweld yn aml o glogwyni Parc y Fferm, yn enwedig ar ddiwrnodau heulog a thawel ond mae’n amhosibl darogan pryd byddan nhw’n dod i ddweud Shwmae!

Ymhlith yr ymwelwyr cyson eraill a all fod yn anodd eu gweld mai llamhidyddion, heidiau o slefrod môr a physgod yr haul, ac o bryd i’w gilydd gwelir siarcod, morfilod asgellog llwyd a morfilod pigfain, orcaod a chrwbanod môr cefn-lledr o’r clogwyni ar hyd ein morlin.

Mae adar môr ac arfordirol fel llursod, huganod, adar drycin y graig, gwylogod a phiod y môr yn rhannu’r awyr gydag adar y ffermdir a chefn gwlad. Nytha gwylanod amrywiol mewn niferoedd mawrion ar Ynys Aberteifi. Gallwch weld mulfrain a mulfrain gwynion yn sefyll ar y creigiau gyda’u hadenydd ar led, yn sychu eu plu.

Mae’r frân goesgoch neu’r frân big-goch brin yn rhannu’r clogwyni gydag aderyn cyflymaf Prydain, sef yr hebog tramor. Mae’r ehedydd mwyfwy prin gyda’i gân bersain yn ffynnu yn y caeau agored, wrth i farcutiaid coch, cudyllod coch a bwncathod gael eu gweld yn gwibio uwchben yn aml. Mae niferoedd mawrion o Wyddau Canada yn llenwi’r awyr gyda ffurfiadau V hir yn ystod diwedd yr haf ac i mewn i’r hydref.

O fis Mawrth ymlaen, mae Parc y Fferm yn fwrlwm o flodau, gan ddechrau gyda’r eithin sy’n llenwi’r aer gyda gwynt cnau coco. Rhwng mis Ebrill a mis Mehefin mae clogwyni Parc y Fferm ac Ynys Aberteifi yn wledd o liwiau – fe welwch ardaloedd mawr o flodau gwyllt yn blodeuo gyda’i gilydd gan greu clytwaith hardd o liwiau glas, fioled a phinc. Wrth i’r rhain bylu, daw planhigion eraill i’r golwg, felly bydd rhywbeth i ddal eich llygaid hyd at ddiwedd yr haf.

Mae amryw famaliaid gwyllt fel llwynogod a moch daear yn byw yn y gwrychoedd ac ymylon caeau’r ffermdir, ac er bod llawer ohonynt yn anifeiliaid y nos, gellir eu gweld nhw, neu arwyddion o’u gweithgarwch yn aml yn ystod y dydd.

Gallwch ddysgu mwy am y bywyd gwyllt a’r blodau gwyllt y gallech fod yn ffodus o’u gweld yn ystod eich ymweliad o ddarllen ein harwyddion esboniadol sy’n britho Parc y Fferm.