Gwbert, Aberteifi, Gorllewin Cymru, SA43 1PR
01239 623637
E-bostiwch ni

Swyddi

Wrth i Barc Fferm Arfordir Ynys Aberteifi barhau i ehangu, bydd cyfleoedd yn codi am waith gyda’r cwmni.

Ein gwaith ni yw gwneud ymwelwyr yn hapus a sicrhau eu bod yn cael diwrnod gwych i’w gofio. Mae gennym ddiddordeb mewn clywed gan bobl ddiwyd, brwdfrydig, hyderus, dibynadwy a chyfeillgar gyda gwasanaeth cwsmeriaid gwych i ymuno â’n tîm. Ar hyn o bryd, mae pob un o’n rolau’n rhai tymhorol o fis Mawrth i fis Tachwedd neu yn ystod gwyliau’r haf ac mewn arlwyo.

Oherwydd lleoliad gwledig Parc Fferm Arfordir Ynys Aberteifi, mae’n rhaid bod gennych fynediad i gludiant dibynadwy.

Bydd ein swyddi gwag yn cael eu postio i’r dudalen hon. Os nad oes gennym swyddi gwag ar hyn o bryd ond bod gennych ddiddordeb mewn ymuno â’n tîm i’r dyfodol, anfonwch eich CV cyfredol gyda llythyr eglurhaol at info@cardiganisland.com

Byddwn yn cadw’ch manylion mewn ffeil am 6 mis os daw swydd addas i’r golwg. Os na fydd swyddi gwag yn codi yn ystod y tymor sydd ohoni, mae croeso i chi roi cynnig arall yn y tymor sy’n dilyn.

Profiad Gwaith
Nid ydym yn derbyn myfyrwyr ar brofiad gwaith ar hyn o bryd.

Swyddi gwag ar hyn o bryd

Staff Arlwyo yn y Caffi

Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig, profiadol a dibynadwy sy’n mwynhau gweithio fel rhan o dîm prysur. Gallai’r rôl gynnwys coginio, paratoi a gweini bwyd ffres, gwneud te a choffi, cymryd archebion, clirio byrddau a chadw tŷ cyffredinol. Rhaid i chi fod yn gyfeillgar ac yn hyderus gan roi sylw da i fanylder, bod yn lân ac yn daclus a dilyn safonau hylendid a diogelwch da. Byddai tystysgrifau hylendid bwyd a medru cyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg o fantais.

Bydd angen i chi wisgo du a gwisgo’n gymen. Sifftiau yn ystod y dydd yn unig, darperir cinio.

Math o gontract: Swyddi amser llawn a rhan-amser amrywiol. Rolau tymhorol yw’r rhain (1 Ebrill – 2 Tachwedd).

Patrwm gwaith: Rhaid gallu gweithio yn ystod cyfnodau prysur gan gynnwys y penwythnosau, gwyliau banc a gwyliau ysgol.