Gwbert, Aberteifi, Gorllewin Cymru, SA43 1PR
01239 623637
E-bostiwch ni

Hygyrchedd

Mae ardal barcio i bobl anabl yn y maes parcio. Mae croeso i chi yrru i lawr i fynedfa’r ganolfan ymwelwyr er mwyn gollwng/casglu pobl gyda symudedd cyfyngedig cyn dychwelyd i ardal y maes parcio i bobl anabl.

Mae drysau llydan iawn gyda rampiau a thoiledau i’r anabl yn y ganolfan ymwelwyr. Mae digon o le yn y ganolfan ymwelwyr ac mae ardal awyr agored y caffi’n wastad ac yn hawdd mynd ati.

Mae gan Barc y fferm ei hun lwybrau cerdded o laswellt sy’n ddigon llydan i gadeiriau olwyn deithio arnynt, ond oherwydd mai lleoliad gwledig ydyw, mae rhai o’r llwybrau hyn ar lethr ac yn gallu bod ychydig yn anwastad. Mae’r rhan fwyaf o’n cwsmeriad sy’n defnyddio cadeiriau olwyn trydanol yn ymdopi, ond weithiau gall ymwelwyr sy’n gwthio cadeiriau â llaw gael rhywfaint o drafferth. Mae digon o feinciau i orffwys arnynt ar y fford.

Mae croeso i gŵn cymorth ym mhob ardal o Barc y Fferm ond rhaid iddynt gael eu cadw ar dennyn byr bob amser.