Gwbert, Aberteifi, Gorllewin Cymru, SA43 1PR
01239 623637
E-bostiwch ni

Newyddion

Darllenwch y clecs diweddaraf! Fan hyn fe welwch chi beth sy’n digwydd ym Mharc Fferm Arfordir Ynys Aberteifi – newydd ddyfodiaid, cyhoeddiadau a digwyddiadau.

5 Ebrill 2019

Beth am hedfan barcud!

Bydd ein trydedd ŵyl farcud flynyddol yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn 22 a dydd Sul 23 Mehefin. Bydd ein cyfeillion o “Skybums” yn Swydd Amwythig yn dychwelyd i greu arddangosfeydd hedfan barcutiaid gyda’u barcutiaid enfawr ac amrywiol. Gallwch brynu barcud o’u stondinau neu dewch â’ch barcud eich hun ac esgus mai chi yw Mary Poppins am y diwrnod wrth iddyn nhw eich helpu chi i ddysgu hedfan barcud!

21 Mawrth 2019

Croeso i’n gwefan newydd!

Rydym wrth ein boddau o ddatgelu’n gwefan ddwyieithog newydd sbon gan y tîm dawnus iawn ym Monddi, Sir Benfro.

Bu Monddi yn brysur iawn dros y blynyddoedd diwethaf yn ein helpu ni i ail-frandio ar ffurf logo newydd, arwyddion cyfeirio a throi ein syniadau’n arwyddion llawn gwybodaeth am Anifeiliaid a Bywyd Gwyllt ein Fferm, a gallwch weld y rhain o gwmpas Parc y Fferm. Mae llawer o waith caled wedi bod yn mynd rhagddo yn ystod Gaeaf 2018/19 tra’r oeddem ar gau, yn ysgrifennu’r cynnwys ar gyfer y wefan ac rydym wrth ein boddau gyda’r cynnyrch gorffenedig sy’n adlewyrchu’r brand newydd rydym yn ei gyflwyno hwnt ac yma Parc y Fferm.

Hoffwn ddiolch hefyd i Melanie Davies, sydd wedi bod yn brysur yn gwneud yn siŵr fod y cynnwys Cymraeg yn berffaith. Gobeithio y bydd y wefan yn cynnig llawer mwy o wybodaeth am yr hyn sydd gennym i’w gynnig ac erbyn hyn, gallwch fynd ar-lein i gadw lle yn ein gwersyll!

1 Mawrth 2019

Rydym yn troi’n wyrdd yn 2019!

Bu gennym angerdd ynghylch gofalu am y tir erioed a hoffem wneud ein rhan fach ni i genedlaethau’r dyfodol.

Mae’n hawdd meddwl nad yw mân newidiadau yn bwysig ond petai pawb yn gwneud rhai o’r pethau hyn, byddai’n dechrau gwneud gwahaniaeth. Fel rhan o’n cynllun gwyrdd, rydym wedi edrych ar ffyrdd o wella pethau ar Barc Fferm Arfordir Ynys Aberteifi.

Dyma rai o’r pethau rydym wedi edrych arnyn nhw:

  • Rydym wedi disodli gwellt plastig gyda rhai papur.
  • Byddwn yn cyfnewid ein cwpanau diodydd poeth cludo i ffwrdd gyda rhai y mae modd eu compostio erbyn diwedd 2019.
  • Mae ein cwpanau diodydd poeth y gellir eu hailddefnyddio wedi’u cynllunio a’u harchebu a byddant ar gael i’w prynu yn ein caffi.
  • Dangosodd Cymru’r ffordd gyda’r ffi o 5c y bag a defnyddiwn fagiau papur brown y mae modd eu hailgylchu yn ein siop roddion.
  • Caiff 90% o’n gwastraff ei ailgylchu a bwriadwn gynyddu hyn erbyn diwedd 2019.
  • Mae llawer o’n goleuadau’n defnyddio bylbiau golau ynni isel.

Fodd bynnag, rydym yn gwneud ein hymrwymiad mwyaf eleni ac yn buddsoddi mewn casgliad o baneli solar 8.3kW a fydd yn cael eu gosod ar do ein canolfan ymwelwyr. Bydd hyn yn ein galluogi i greu llawer o’n trydan ein hunain. Byddwch yn gallu gweld faint o drydan mae’r paneli’n eu creu dan wahanol dywydd ar declyn arddangos digidol yn ein canolfan ymwelwyr.

25 Ionawr 2019

Dewch i gwrdd â’n hasen newydd, Dwynwen!

Er bod ein hasyn, Dilwyn wedi bod yn eithaf hapus yn cadw cwmni i Llinos ein lama, dros y blynyddoedd diwethaf (mae asynnod a lamaod yn gwneud cwmni da i’w gilydd), roeddem yn teimlo ei bod hi’n bryd iddo gael cariad!

Mae Dwynwen wedi’i henwi ar ôl nawddsant cariadon Cymru a ddethlir ar 25 Ionawr bob blwyddyn, a digwydd bod dyna’r diwrnod y cyrhaeddodd Dwynwen y fferm!

Er mwyn cael gwybod mwy am Santes Dwynwen, cliciwch fan hyn.

10 Ionawr 2019

Dewch i gwrdd â’n geifr bychan newydd!

Mae geifr bychan newydd hyfryd wedi cyrraedd Parc y Fferm.

Yn ein barn ni, mae’r bechgyn bach hyn yn hyfryd dros ben ac ni allwn aros i’w gweld nhw’n chwarae o gwmpas y padogau yn y Gwanwyn!