Gwbert, Aberteifi, Gorllewin Cymru, SA43 1PR
01239 623637
E-bostiwch ni

Iechyd a Diogelwch

Cynghorwn bob ymwelydd i ddarllen yr isod.

Dylai plant yn eich gofal fod dan oruchwyliaeth bob amser ac ar bob cyfrif. Nid ydym yn caniatáu plant dan 14 oed i ymweld heb oedolyn.

Gwisgwch esgidiau synhwyrol. Bydd ymweliad â’r fferm yn golygu llawer o gerdded, ac oherwydd ein lleoliad gwledig, mae’n naturiol i’r llwybrau fod yn anwastad. Os mai dechrau’r tymor yw hi neu os bydd cyfnod hir o wlypter wedi bod, rydym yn argymell esgidiau glaw. Sicrhewch fod gennych ddillad digon cynnes. Gall deimlo’n oerach wrth yr arfordir nag ar y tir mawr.

Ni ellir darogan ymddygiad a gallant gnoi neu bigo. PEIDIWCH á chyffwrdd na bwydo’r merlod, y moch na’r da â llaw – rhowch eu bwyd ar y tir neu yn y cafnaua ddarperir.
Dim ond bwyd a brynwyd ym mharc y fferm ddylid ei fwydo i’r anifeiliaid eraill. Mae hylendid da yn bwysig o gwmpas yr anifeiliaid, edrychwch ar yr adran ar Hylendid Isod.

Ni ddylai merched beichiog gyffwrdd â’r mamogiaid, yr ŵyn, y geifr, myn geifr na’r lloi.

Gall rhai anifeiliaid fferm gario nifer o heintiau a all fod yn niweidiol i fodau dynol. Bydd cadw at y canllawiau canlynol yn helpu lleihau unrhyw risg.

  • Bwytewch ac yfwch yn y caffi neu’r ardaloedd picnic yn unig.
  • Peidiwch â gwisgo menig wrth fwydo neu gyffwrdd â’r anifeiliaid.
  • Peidiwch â gadael i’r plant roi eu bysedd yn eu cegau tra byddant o gwmpas yr anifeiliaid.
  • Peidiwch â chusanu anifeiliaid, cnoi’r ffensys na gadael i’r plant roi eu hwynebau’n agos at yr anifeiliaid.
  • Golchwch eich dwylo’n drylwyr gyda sebon gwrthfacterol ar ôl gadael ardal cyswllt ag anifeiliaid a chyn bwyta ac yfed. Rhaid i chi oruchwylio’ch plentyn yn golchi dwylo i sicrhau ei fod yn cael ei wneud yn gywir. Nid yw geliau a chlytiau glanweithdra’n rhoi digon o ddiogelwch ar eu pen eu hunain ac nid ydynt yn cymryd lle golchi dwylo’n drylwyr. Gellir dod o hyd i gyfleusterau golchi dwylo yn nhoiledau’r ganolfan ymwelwyr a nesaf at y fynedfa i’r pwll.

Golchwch eich dwylo’n drwyadl unwaith eto cyn gadael y fferm.

Mae ein hardaloedd chwarae yn rhai dan oruchwyliaeth – y rhieni a’r goruchwylwyr sy’n gyfrifol am oruchwylio’u plant eu hunain.

Caiff ein hardaloedd chwarae eu harchwilio gan The Royal Society for the Prevention of Accidents (ROSPA) yn flynyddol.

Mae ardaloedd cyhoeddus Parc y Fferm wedi’u hamlinellu gan ffensys, gatiau ac arwyddion, yn enwedig wrth y ffens ar ben y clogwyn.

Peidiwch â dringo ar y ffensys na’r gatiau a pheidiwch â mynd i mewn i lociau’r anifeiliaid. Bydd unrhyw un sy’n mentro y tu hwnt i’r ffiniau hyn yn gwneud hynny ar eu menter eu hunain.

Mae gennym becyn cymorth cyntaf ar y safle; rhowch wybod i aelod o staff os bydd angen cymorth arnoch. Nid oes gennym hawl i roi meddyginiaeth na chadw meddyginiaeth ar y safle. Ein hysbyty agosaf yw Ysbyty Aberteifi sydd ag adran frys gyfyngedig. Mae cyfarwyddiadau ar gael wrth Ddesg y Fynedfa.

Mae’r rhain yn llawer o hwyl ond gallant achosi anhrefn ar Barc y Fferm. Gadewch nhw adref neu rydym yn hapus i ofalu amdanyn nhw wrth Ddesg y Fynedfa.

Mae terfyn cyflymder o 5 m.y.a. ar waith wrth i chi agosáu at y maes parcio a’r ganolfan ymwelwyr, gydag arwyddion priodol yn eu lle. Gan mai fferm waith ydyn ni, hwyrach y bydd cerbydau amaethyddol yn symud o gwmpas.

Ewch â phlant sydd ar goll i Ddesg y Fynedfa neu at aelod o staff gerllaw. Wrth ymweld ag atyniadau, mae’n syniad da tynnu ffotograff o’ch plentyn wrth gyrraedd er mwyn i chi allu ei ddangos i’r staff os byddant yn mynd ar goll gan y byddant yn gwisgo’r un dillad. Dywedwch wrth eich plentyn hefyd i fynd at aelod o staff os byddan nhw ar goll. Bydd plant ar goll yn cael eu cadw wrth Ddesg y Fynedfa.

Rhaid cadw cŵn ar dennyn byr BOB amser a chofiwch glirio baw eich ci.

Ni chaniateir cŵn (heblaw am gŵn cymorth) i’r caffi dan do ond fe’u caniateir i ardal batio awyr agored y caffi, lle darperir powlenni o ddŵr. Peidiwch â gadael eich ci yn eich car.

Ni chaniateir ysmygu ac e-sigaréts yn y ganolfan ymwelwyr, ardaloedd chwarae nac o gwmpas llociau’r anifeiliaid.

Peidiwch â gollwng diwedd sigaréts o gwmpas y fferm gan eu bod yn niweidiol i fywyd gwyllt.

O glywed larwm yn y ganolfan ymwelwyr, ewch i’r man ymgynnull yn y maes chwarae.