Gwbert, Aberteifi, Gorllewin Cymru, SA43 1PR
01239 623637
E-bostiwch ni

Ymweliadau gan Grwpiau ac Ysgolion

Ymweliadau gan Grwpiau

Mae ymweliadau gan grwpiau yn ddelfrydol i glybiau, sefydliadau neu deuluoedd estynedig. Cynigiwn ostyngiad o 10% i grwpiau o 15 neu’n fwy o bobl sy’n talu wrth gadw lle ymlaen llaw ac os caiff ei dalu fel un trafodyn. Gallwn gadw bwrdd yn ein caffi neu yn yr ardal bicnic awyr agored ar eich cyfer.

Cyfraddau Grwpiau

Oedolion

£5.30

Plant (2-13 oed)

£4.40

Plant dan 2 flwydd oed

Am Ddim

Dinasyddion Hŷn (65+ oed)

£4.95

Oedolion Anabl

£4.50

Plant Anabl

£4.05

Dewis i gael bag o fwyd anifail

90c

  • Lle parcio am ddim i geir a bysus
  • Caffi Parc y Fferm: bwyd poeth ac oer, diodydd, byrbrydau a hufen iâ
  • Ardaloedd picnic awyr agored
  • Cyfleusterau golchi dwylo
  • Toiledau gyda mynediad i bobl anabl
  • Lletygarwch i yrwyr bysus
  • Siop roddion

RHAID i grwpiau sy’n ymweld gadw lle ymlaen llaw. Cysylltwch â ni ar 01239 623637 neu info@cardiganisland.com i drefnu ymweliad.

Gweler ein tudalen Hygyrchedd i gael rhagor o wybodaeth.

Ymweliadau gan Ysgolion

Cynigia teithiau ysgolion a chylchoedd meithrin i Barc Fferm Arfordir Ynys Aberteifi ddiwrnod allan addysgiadol i blant.

Ymweliad Hunan-Dywys – Yn Cynnig Gwerth Gwych!

Plant

£4.40

Un oedolyn AM DDIM fesul 5 plentyn sy’n talu (gyda grwpiau o 15 o blant neu’n fwy)

Oedolion ychwanegol

£5.30

Dewis i gael bag bach o fwyd anifail

45c

Yn cynnwys:

  • Lle storio bagiau
  • Arwyddion gwybodaeth dwyieithog ar anifeiliaid y fferm a bywyd gwyllt
  • Parcio am ddim i geir a bysus
  • Cyfleusterau golchi dwylo hawdd i blant eu defnyddio
  • Toiledau gyda mynediad i bobl anabl
  • Ardal bicnic wedi’i chadw
  • Caffi’n gweini bwyd poeth ac oer, diodydd, byrbrydau a hufen iâ
  • Siop roddion gyda llyfrau a theganau pris arian poced
  • Dysgwch am ynni’r haul a chreu trydan o’n byrddau arddangos a graffau llawn gwybodaeth sy’n gysyllteidig â’n rhesi paneli solar.
ChickenwithChicks

Bydd croeso i chi ar Barc y Fferm a bydd cyfarwyddyd diogelwch cyflym yn cael ei roi i chi. Mae rhyddid i chi wedyn ddilyn eich amserlen eich hun, mynd am dro o gwmpas a bwydo anifeiliaid y fferm ac, os dymunwch, mynd ymlaen i’r man gwylio morloi sy’n edrych dros Ynys Aberteifi. Mae gennym lawer o arwyddion gwybodaeth addysgiadol dwyieithog a fydd yn dweud y cyfan am yr anifeiliaid fferm i chi yn ogystal ag unrhyw fywyd gwyllt allech chi fod yn ffodus i’w gweld. Mae gennym ardal chwarae awyr agored mawr a ‘Lego’nfawr a gemau dan do. At ei gilydd, mae’r rhan fwyaf o grwpiau’n cyrraedd erbyn 10am ac yn gadael erbyn 2pm.

Rydym am i’ch ymweliad fod yn llawn mwynhad ac yn addysgiadol, ond fel pob fferm, nid yw’n gwbl rydd o beryglon. Gweler ein tudalen Iechyd a Diogelwch i gael manylion. Mae croeso i staff addysgu ddod i barc y fferm yn rhad ac am ddim cyn yr ymweliad i gynnal asesiad risg. Cysylltwch â ni i roi gwybod pryd byddwch chi’n dod. Mae ymweliadau gan ysgolion a chylchoedd meithrin ar gael ar ddiwrnodau’r wythnos yn ystod y tymor a RHAID cadw lle ymlaen llaw. Cysylltwch â ni ar 01239 623637 neu info@cardiganisland.com i drefnu’ch ymweliad.

Gweler ein tudalen ar Hygyrchedd i gael rhagor o wybodaeth.