Gwbert, Aberteifi, Gorllewin Cymru, SA43 1PR
01239 623637
E-bostiwch ni

Chwarae

Hwyl Pêl-droed!
Gwenwch!
Ardal Adeiladu!

Mae digonedd o weithgareddau chwarae ar Barc y Fferm i ddiddanu plant o bob oedran.

Mae ein llwybr antur coed yn boblogaidd, gyda’i rwystrau heriol i brofi ystwythder, cydbwysedd a chydsymud. Gall egin bêl-droedwyr anelu at ein gêm saethu a sgorio thema fferm, tra gall y rhai mwy artistig yn eu plith ddwdlan ac arlunio ar y bwrdd sialc yn yr awyr agored.

Mae’r ardal chwarae awyr agored yn cynnwys siglenni a phydew tywod mawr hefyd, sy’n golygu bod ymweliad â Pharc y Fferm llawn cystal â diwrnod ar y traeth. Mae gennym ardal adeiladu yn y ganolfan ymwelwyr lle gall y plant ddefnyddio blociau adeiladu enfawr i godi creadigaethau dychmygus. Ac mae gemau a phosau eraill ar gael i gadw’r plantos bach yn brysur hefyd.

justkiddingaround