Gwbert, Aberteifi, Gorllewin Cymru, SA43 1PR
01239 623637
E-bostiwch ni

Polisi Preifatrwydd

Rhagarweiniad

Mae Ceredigion Leisure Ltd. (sy’n masnachu fel Parc Fferm Arfordir Ynys Aberteifi), Cardigan Island Ltd., a Cardigan Island Camping & Caravanning, yn parchu preifatrwydd eu defnyddwyr ac yn ymroi’n gyfan gwbl i ddiogelu eu gwybodaeth bersonol a’i defnyddio’n gywir. Disgrifia’r polisi hwn sut gallwn gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol, a’r hawliau a’r dewisiadau sydd ar gael i’n hymwelwyr a’n defnyddwyr mewn perthynas â’r wybodaeth honno.

Lluniwyd y polisi hwn i gydymffurfio â Deddfwriaeth Diogelu Data presennol y DU a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yr UE. Byddwn yn adolygu’n polisi preifatrwydd yn gyson a byddwn yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon.

Fe’ch anogwn yn gryf i ddarllen y polisi hwn a gwneud yn siŵr eich bod yn ei ddeall yn llwyr ac yn cytuno arno. Os nad ydych yn darllen, yn llwyr ddeall nac yn cytuno â’r Polisi Preifatrwydd hwn, rhaid i chi adael y wefan, rhaglen neu’r gwasanaeth hwn yn syth, ac osgoi neu roi’r gorau i bob defnydd o’n gwasanaethau.

Pwy ydyn ni?

At ddibenion Deddf Diogelu Data 1998 (y Ddeddf), rheolwr data’r holl ddata a gesglir trwy’r dulliau ac am y rhesymau a gofnodir isod, yw:

Ceredigion Leisure Ltd., Llys-yr-ynys, Gwbert, Aberteifi, Ceredigion. SA43 1PR

01239 623637

info@cardiganisland.com

Pryd byddwn yn casglu gwybodaeth gennych?

Gallem gasglu gwybodaeth bersonol a dderbyniwn pan fyddwch:

  • Yn ymweld â’n safle
  • Yn defnyddio’n gwefan – cardiganisland.com
  • Yn rhyngweithio gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Yn cysylltu â ni dros y ffôn
  • Yn cysylltu â ni trwy e-bost
  • Yn cadw lle yn ein gwersyll, naill ai’n uniongyrchol neu drwy drydydd parti fel Pitchup.com
  • Yn gwneud cais i ymuno â’n tîm

Pa wybodaeth a gasglwn?

Gallem gasglu’r mathau canlynol o wybodaeth:

  • Eich enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif(au) ffôn a manylion cyswllt eraill
  • Eich enw a’ch dyddiad geni chi a rhai’r unigolion eraill yn eich parti
  • Enw eich ysgol/grŵp, cyfeiriad yr ysgol/grŵp a rhif(au) ffôn yr ysgol/grŵp
  • Gwybodaeth am eich taliad fel manylion cerdyn credyd neu ddebyd a manylion cyfrif banc
  • Gwybodaeth am gerbydau fel rhifau cofrestru
  • Eich dewisiadau cyfathrebu i’r dyfodol
  • Eich cyfeiriad IP
  • Manylion meddygol perthnasol os bydd ein gweinyddwyr cymorth cyntaf yn eich trin ar ôl rhyw ddigwyddiad
  • Gwybodaeth bersonol arall a roddwch i ni o’ch gwirfodd

Pan ddarparwch wybodaeth am bobl eraill i ni, rhaid i chi wneud yn siŵr eu bod wedi gweld copi o’r hysbysiad preifatrwydd hwn a’u bod yn gyfforddus â’r wybodaeth a roddwch i ni amdanynt.

Sut ydym yn defnyddio gwybodaeth bersonol?

Gallem gasglu’ch gwybodaeth bersonol er mwyn i ni allu:

  • Ateb eich ymholiadau
  • Rhoi’r gwasanaethau y gofynnwch amdanynt i chi
  • Creu a rheoli’ch archeb parti pen-blwydd neu archeb grŵp
  • Prosesu taliadau ar gyfer ein gwasanaethau
  • Gwirio’ch hunaniaeth at ddibenion diogelwch
  • Helpu gwneud ein gwefan mor ddefnyddiol â phosibl i chi
  • Anfon atoch wybodaeth am gynigion a digwyddiadau a allai fod o ddiddordeb i chi, ond dim ond lle’r ydych chi wedi rhoi caniatâd eglur.
  • Eich galluogi i ryngweithio gyda ni trwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol
  • Cynnal polau ac arolygon
  • Cyflwyno hysbysebion o wasanaethau, digwyddiadau a chynigion a allai fod o ddiddordeb i chi, ond dim ond lle’r ydych chi wedi rhoi caniatâd eglur.
  • Eich cynorthwyo os byddwch chi’n cael helynt meddygol
  • Bodloni’n rhwymedigaethau cyfreithiol
  • Gwneud penderfyniadau recriwtio.

Gallai gwybodaeth nad yw’n dynodi unrhyw unigolyn gael ei defnyddio mewn ffordd gyffredinol gennym ni neu gan drydydd partïon ar ein rhan, at ddibenion megis rheoli ansawdd neu wella’n gwasanaethau a’n gwefan.

Pa sail gyfreithiol sydd gennym i brosesu’ch data personol?

Yn unol â’r GDPR, rhaid bod gennym sail gyfreithlon i ddefnyddio data personol bob amser. Hwyrach fod hyn oherwydd bod angen y data er mwyn i ni gyflawni contract gyda chi, oherwydd eich bod chi wedi caniatáu i’n defnydd o’ch data personol, neu oherwydd ei fod er ein lles busnes cyfreithlon ni i’w ddefnyddio. Gallai’ch data personol gael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw un o’r dibenion canlynol:

  • Darparu a rheoli’ch mynediad i’n safle.
  • Personoli a theilwra’ch profiad ar ein safle.
  • Cyflenwi’n cynhyrchion ac/neu’n gwasanaethau i chi
  • Personoli a theilwra ein cynhyrchion ac/neu’n gwasanaethau i chi
  • Cyfathrebu gyda chi. Gallai hyn gynnwys ymateb i negeseuon e-bost neu alwadau gennych chi.
  • Cyflenwi gwybodaeth i chi drwy e-bost ac/neu bost yr ydych chi wedi’u dewis (cewch danysgrifio neu eithrio unrhyw bryd trwy ddefnyddio’r ddolen gyswllt i’n negeseuon e-bost neu drwy’n cynghori ni gan ddefnyddio’n ffurflen gyswllt).
  • Dadansoddi’ch defnydd o’n safle a chasglu adborth er mwyn ein galluogi ni i wella’n Safle a’ch profiad defnyddiwr yn barhaus.

Gyda’ch caniatâd ac/neu lle caniateir yn ôl y gyfraith, gallem hefyd ddefnyddio’ch data personol at ddibenion marchnata.

Byddwn bob amser yn gweithio i ddiogelu’ch hawliau’n llwyr a chydymffurfio â’n rhwymedigaethau dan GDPR a Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig (Cyfarwyddeb y CE) 2003, a byddwch yn cael cyfle i eithrio bob amser.

Pryd ydyn ni’n rhannu data personol?

Ni fyddwn yn gwerthu, dosbarthu nac yn prydlesu’ch gwybodaeth bersonol i drydydd partïon oni i ni gael eich caniatâd neu os bydd y gyfraith yn gofyn i ni wneud hynny.

Mae’n bosibl y bydd angen i’ch gwybodaeth gael ei throsglwyddo i gwmnïau eraill er mwyn cyflawni’n gweithgareddau busnes neu rwymedigaethau cyfreithiol. Mae hyn yn cynnwys darparwyr gwasanaeth trydydd parti fel cyfrifwyr, archwilwyr, arbenigwyr, cyfreithwyr ac ymgynghorwyr proffesiynol o’r tu allan; darparwyr gwasanaeth systemau TG, cymorth a gwesteia; darparwyr gwasanaeth prosesu taliadau, argraffu, hysbysebu, marchnata ac arolygon a brynwyd i mewn sy’n ein cynorthwyo ni i gynnal ein gweithgareddau busnes.

Ble rydym yn storio ac yn prosesu data personol?

Fel rheol, mae ein systemau a systemau’n darparwyr gwasanaeth yn y DU neu yn Ardal Economaidd Ewrop (“AEE”). Fodd bynnag, mae darparwyr gwasanaeth trydydd parti fel Survey Monkey, Google Analytics a Google Adwords yn trosglwyddo’ch data i’w storio a’u prosesu yn yr Unol Daleithiau. Mae’r cwmnïau hyn wedi’u cymeradwyo’n rhai sy’n cydymffurfio â Fframwaith Cadw Preifatrwydd yr UE-UDA a Chadw Preifatrwydd y Swistir-UE ac felly ystyrir bod ganddynt ddiogelwch data digonol i hwyluso trosglwyddiad data’r UE.

Sut ydym yn diogelu data personol?

Rydym yn ymroi i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel cyn belled ag y bo hynny’n rhesymol bosibl er mwyn ei diogelu rhag i unrhyw un fynd ati’n amhriodol neu’n ddamweiniol, ei defnyddio, rhannu, dinistrio neu golli. Er mwyn atal mynediad neu ddadleniad anawdurdodedig, rydym wedi rhoi gweithdrefnau ffisegol, electronig a rheoli addas ar waith i amddiffyn a diogelu’r wybodaeth a gasglwn ar-lein. Os credwch i ni wneud camgymeriad, cysylltwch â ni a byddwn yn gwneud ein gorau i’w gywiro.

Am ba hyd fyddwn ni’n cadw’ch data personol?

Byddwn ond yn cadw’ch gwybodaeth bersonol am gyhyd â bod angen hynny er mwyn cyflawni pwrpas penodol neu i fodloni rhwymedigaeth benodol. Yr unig eithriadau i’r cyfnodau hynny yw lle

  • Mae’r ddeddf sy’n rheoli yn gofyn i ni gadw’ch Data Personol am gyfnod hwy, neu ei ddileu cyn hynny.
  • Rydych chi’n ymarfer eich hawl i ddileu’r Data Personol (lle mae’n berthnasol) ac nid oes angen i ni ei gadw mewn cysylltiad ag unrhyw un o’r rhesymau a ganiatawyd neu sy’n ofynnol dan y ddeddf sy’n rheoli.

Eich hawliau mewn perthynas â data personol

Mae GDPR yn rhoi hawliau ychwanegol i chi y tu hwnt i’ch hawl i gael gwybodaeth a’ch hawl i wrthwynebu marchnata uniongyrchol. Mae gennych yr hawl i:

  • Ofyn am gywiriad i’ch data personol
  • Gofyn am ddileu’ch data personol
  • Gwrthwynebu i brosesu’ch data personol neu ofyn am gyfyngiad ar brosesu’ch data personol
  • Gofyn am drosglwyddo’ch data personol
  • Hawl i dynnu caniatâd yn ôl.

Er mwyn ymarfer unrhyw un o’r hawliau hyn, gwnewch hynny drwy anfon e-bost at info@cardiganisland.com. Byddwn yn cydymffurfio â’ch gofyniad/gofynion yn unol â’r gyfraith oni fod amgylchiadau gwrthdrawiadol yn codi lle gallai’r hawliau pwnc data fod yn gyfyngedig, e.e. os bydd diwallu’r gofyniad pwnc data yn amlygu data personol am rywun arall, neu os gofynnir i ni ddileu data y mae angen i ni ei gadw yn ôl y gyfraith.

Gallwch ofyn am fanylion gwybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Bydd y ceisiadau hynny’n cael eu darparu mewn fformat hygyrch i chi, fel rheol cyn pen 1 mis o dderbyn y cais a hynny’n rhad ac am ddim. Fodd bynnag, os ydy’ch cais yn arbennig o gymhleth, efallai y bydd angen rhagor o amser i brosesu’ch cais ac efallai y codir ffi, ond byddwn yn rhoi gwybod i chi am hyn ac yn eich diweddaru yn hyn o beth. Hwyrach y bydd angen i ni hefyd ofyn am wybodaeth benodol gennych fel dulliau i’ch adnabod. Mesur diogelwch yw hyn i sicrhau nad oes data personol yn cael ei ddatgelu i unrhyw un sydd heb yr hawl i’w gael. Os hoffech gael copi o’r wybodaeth a gedwir amdanoch, ysgrifennwch at:

Ceredigion Leisure Ltd., Llys-yr-ynys, Gwbert, Aberteifi, Ceredigion. SA43 1PR

Sut i gysylltu â ni?

Os hoffech gael mynediad at Wybodaeth Bersonol ac/neu ofyn inni gywiro’r Wybodaeth yr ydym wedi’i storio, neu os hoffech ofyn am restr o ba Wybodaeth Bersonol (os o gwbl) mewn perthynas â chi a ddatgelwn i drydydd partïon at ddibenion marchnata uniongyrchol, mae croeso i chi anfon e-bost atom yn info@cardiganisland.com, neu ddefnyddio’r ffurflen gyswllt ar ein gwefan, a byddwn yn ymateb o fewn amserlen resymol ac yn unol ag unrhyw gyfraith berthnasol.

Defnyddio cwcis a thechnolegau eraill

Gallai ein safle osod a mynd at gwcis ar eich cyfrifiadur neu ddyfais. Ffeil fach yw cwci a roddir ar yriant caled eich cyfrifiadur sy’n helpu i ddadansoddi traffig y we neu’n rhoi gwybod i chi pan fyddwch yn ymweld â safle penodol. Mae cwcis yn galluogi cymwysiadau ar y we i ymateb i chi fel unigolyn. Gall y cymhwysiad ar y we deilwra’i weithredoedd i’ch anghenion chi, eich hoff a chas bethau trwy gasglu a chofio gwybodaeth am eich dewisiadau.

Defnyddia’r wefan hon feddalwedd tracio i fonitro’i hymwelwyr i ddeall yn well sut maen nhw’n ei defnyddio. Darperir y feddalwedd hon gan Google Analytics sy’n defnyddio cwcis i dracio defnydd yr ymwelwyr. Bydd y feddalwedd yn cadw cwci ar yriant caled eich cyfrifiadur er mwyn tracio a monitro’ch ymgysylltiad a’ch defnydd o’r wefan, ond ni fydd yn storio, yn cadw nac yn casglu gwybodaeth bersonol.

Ar y cyfan, mae’r cwcis yn ein helpu ni i ddarparu gwell gwefan trwy ein galluogi ni i fonitro pa dudalennau sydd o gymorth i chi neu beidio. Nid yw cwci’n rhoi mynediad i’ch cyfrifiadur nac i unrhyw wybodaeth amdanoch mewn unrhyw ffordd, ac eithrio’r data y dewiswch ei rannu gyda ni.

Mae’r rhan fwyaf o borwyr gwe’n derbyn cwcis yn ddiofyn, ond fel rheol gallwch ddiwygio gosodiad pori’r rhyngrwyd i wrthod cwcis os oes gwell gennych. Gallai hyn eich atal rhag manteisio’n llawn ar y wefan.

Cysylltu â chynnwys gwefannau/trydydd parti eraill

Gallai ein gwefan/y cyfryngau cymdeithasol gynnwys dolenni i wefannau eraill. Fodd bynnag, dylech nodi nad oes gennym unrhyw reolaeth ar y gwefannau eraill hyn. Felly, ar ôl i chi adael ein gwefan gan ddefnyddio’r dolenni hyn, ni ellir ein gwneud ni’n gyfrifol am ddiogelwch a phreifatrwydd unrhyw wybodaeth a ddarparwch wrth ddefnyddio/ymweld â’r safleoedd hyn. Ni chaiff y safleoedd hynny eu rheoli gan y datganiad preifatrwydd hwn.

Sylwch fod ein holl blatfformau ar y cyfryngau cymdeithasol (fel Facebook, Twitter, Instagram a Youtube) yn destun telerau ac amodau darparwr y platfform yn ogystal â’r polisïau preifatrwydd a’r defnydd o gwcis. Felly, gallai’r wybodaeth a rannwch gyda ni trwy’r platfformau hyn gael eu defnyddio neu werthu at ddibenion masnachol gan y darparwr. Wrth ymgysylltu â’n safle cyfryngau cymdeithasol, byddwch yn ofalus mewn perthynas â’ch manylion personol a’ch preifatrwydd.