Gwbert, Aberteifi, Gorllewin Cymru, SA43 1PR
01239 623637
E-bostiwch ni

Telerau ac Amodau

Croeso i’n gwefan. Os byddwch yn parhau i bori a defnyddio’r wefan hon, rydych chi’n cytuno i gydymffurfio â’r telerau a’r amodau defnydd canlynol a bod yn ymrwymedig iddynt. Mae’r Telerau ac Amodau, ar y cyd â’n polisi preifatrwydd, yn rheoli perthynas Ceredigion Leisure Ltd. (sy’n masnachu fel Parc Fferm Arfordir Ynys Aberteifi) gyda chi mewn perthynas â’r wefan hon. Os ydych chi’n anghytuno gydag unrhyw ran o’r telerau a’r amodau hyn, peidiwch â defnyddio’n gwefan.

Mae’r defnydd o’r wefan hon yn destun y telerau defnydd canlynol:

  • Mae cynnwys tudalennau’r wefan hon er eich gwybodaeth ac i’ch defnydd cyffredinol chi yn unig. Mae’n destun newid heb rybudd.
  • Nid ydym ni nac unrhyw drydydd parti’n darparu unrhyw warant na sicrwydd o ran cywirdeb, prydlondeb, perfformiad, cyfanrwydd neu addasrwydd y wybodaeth a’r deunyddiau sydd i’w canfod neu a gynigir ar y wefan hon at unrhyw ddiben penodol. Rydych chi’n cydnabod y gallai’r wybodaeth a’r deunyddiau hynny gynnwys anghysonderau neu wallau ac eithriwn yn eglur atebolrwydd am unrhyw anghysonderau neu wallau hyd at y graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith.
  • Mae’ch defnydd o unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau ar y wefan hon ar eich cyfrifoldeb eich hun, ac ni fyddwn yn atebol amdano. Eich cyfrifoldeb chi eich hun fydd sicrhau bod unrhyw gynhyrchion, gwasanaethau neu wybodaeth sydd ar gael trwy’r wefan hon yn bodloni’ch gofynion penodol.
  • Mae’r wefan hon yn cynnwys deunydd sy’n eiddo i ni neu sydd wedi’i drwyddedu i ni. Mae’r deunydd yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i ddyluniad, cynllun, edrychiad, ymddangosiad a graffeg. Gwaherddir atgynhyrchu ar wahân i atgynhyrchu sy’n unol â’r hysbysiad hawlfraint, sy’n rhan o’r telerau a’r amodau hyn.
  • Cydnabyddir ar y wefan hon bob nod masnach a atgynhyrchir arni os nad ydynt yn eiddo i’r gweithredwr nac wedi’i drwyddedu ganddo.
  • Gallai defnydd anawdurdodedig o’r wefan beri hawliad am iawndal ac/neu fod yn drosedd.
  • O bryd i’w gilydd, gallai’r wefan hon hefyd gynnwys dolenni i wefannau eraill. Darperir y dolenni hyn er eich cyfleustod chi er mwyn darparu rhagor o wybodaeth. Nid ydynt yn arwydd o’n cymeradwyaeth i’r wefan(gwefannau). Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys y wefan gysylltiedig/gwefannau cysylltiedig.
  • Mae’ch defnydd o’r wefan hon ac unrhyw anghydfod sy’n codi o’r defnydd o’r wefan yn destun cyfreithiau Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.

Telerau Mynediad i Barc Fferm Arfordir Ynys Aberteifi

Mae pawb sy’n mynd i mewn i Barc Fferm Arfordir Ynys Aberteifi’n cael mynediad yn amodol ar y telerau y manylir arnynt isod. Gallai methu cydymffurfio â’r telerau hyn arwain at Barc y Fferm yn peidio â rhoi mynediad neu’n gwrthod mynediad. Mae hyn heb ymrwymiad i unrhyw hawliad y gallai fod gan Ceredigion Leisure Ltd. yn erbyn person neu bersonau sy’n deillio o unrhyw weithredoedd ganddynt. Ond y tu mewn i Barc y Fferm, rhaid i bob ymwelydd gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir iddynt gan staff Parc y Fferm.

Dylid darllen y telerau hyn ar y cyd â’n tudalennau Iechyd a Diogelwch a Chwestiynau Cyffredin.

  • Mae’r prisiau mynediad yn unol â’r rhai a ddengys wrth y fynedfa.
  • Wrth wneud cais am unrhyw ostyngiad, rhaid cadw at y polisïau a ddengys wrth y fynedfa. Ni fydd gostyngiadau’n cael eu rhoi i bobl nad ydynt yn bodloni’r meini prawf angenrheidiol.
  • Rhaid i bawb sy’n 2 flwydd oed neu’n hŷn sy’n dod i mewn i Barc y Fferm dalu’r pris mynediad perthnasol neu fod ym meddiant tocyn mynediad dilys.
  • Ni roddir ad-daliadau ar ôl cael mynediad i Barc y Fferm. Gellir trosglwyddo tocynnau yn ôl disgresiwn y rheolwyr.
  • Rhaid glynu wrth yr holl arwyddion iechyd a diogelwch ar hyd Parc y Fferm, yn ogystal â’r wybodaeth a gyflwynir mewn unrhyw daflenni wrth gyrraedd.
  • Deellir hefyd efallai y bydd rhaid cau neu addasu atyniadau neu Barc y Fferm yn gyfan gwbl, a hynny’n ddirybudd, am resymau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth.
  • Mae’r maes parcio’n rhad ac am ddim, ac mae er cyfleustod ein hymwelwyr. Nid yw Ceredigion Leisure Ltd. yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod sy’n digwydd ar ein maes parcio.
  • Bydd unrhyw un sy’n cam-drin unrhyw anifail yn cael eu hebrwng o Barc y Fferm heb yr hawl am ad-daliad.
  • Rhaid ad-dalu’n llawn am unrhyw doriadau neu ddifrod a achoswyd trwy ymddygiad diofal i unrhyw un o’n hatyniadau neu i stoc ein siop.
  • Mae cyfyngiadau taldra ac/neu oedran yn berthnasol i rai o’n reidiau a’n gweithgareddau. Rhaid defnyddio pob reid, gweithgaredd a chyfleuster yn unol â’u cyfyngiadau a chyfarwyddiadau defnydd.

Telerau Trefnu Partïon Pen-blwydd

Cyfeiriwch at ein tudalen Penblwyddi i weld telerau penodol yn ymwneud â threfniadau partïon.

Telerau Trefniadau gan Ysgolion a Grwpiau

Rhaid darllen y telerau canlynol ar y cyd â’n tudalen we Ysgolion a Grwpiau. Rhaid glynu wrth unrhyw ddatganiadau sydd wedi’u cynnwys ynddynt y gellir eu dadansoddi fel telerau, yn ogystal â’r canlynol:

  • Rhaid cadw lle i grwpiau ac ysgolion ymlaen llaw trwy ffonio 01239 623637 neu anfon e-bost at info@cardiganisland.com
  • Rhaid bod o leiaf 15 ymwelydd sy’n talu yn eich grŵp. Golyga hyn na allwch gyfrif deiliaid tocyn blynyddol neu blant dan ddwy flwydd oed. Gwnewch yn siŵr fod gennych niferoedd terfynol y grwpiau wrth gyrraedd.
  • Mae ein cyfradd arbennig i ysgolion yn berthnasol i grwpiau ysgol, meithrin a Dechrau’n Deg yn unig.
  • Rydym yn hapus i gynnig y gyfradd hon ar ddiwrnodau’r wythnos yn ystod y tymor ysgol.
  • Ni ddarparwn asesiad risg ar gyfer eich ymweliad ond mae croeso i chi gynnal un eich hun, ac i’r perwyl hwnnw cynigiwn fynediad am ddim i ddau oedolyn cyn eich ymweliad.
  • Rhaid talu am ymweliadau grŵp ar y diwrnod mewn un trafodyn, neu gellir anfon anfoneb ar y diwrnod a’i thalu trwy daliad BACS cyn pen 30 diwrnod o’ch ymweliad.

Telerau Cadw Lle yn y Gwersyll

Mae’r telerau hyn yn berthnasol i bob lle a gedwir ar safle Gwersylla a Charafanio Ynys Aberteifi. Wrth gadw lle, rydych chi’n sicrhau bod gennych yr awdurdod i dderbyn a’ch bod chi’n derbyn y telerau hyn yn eu cyfanrwydd ar ran eich parti. Daw’r telerau hyn i rym cyn gynted ag y byddwn yn cadarnhau’ch lle, naill ar bapur, yn electronig neu ar lafar. Rheolir y telerau hyn gan gyfreithiau Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.

  • Ni fydd unrhyw le’n cael ei gadarnhau’n llwyr hyd nes i flaendal o £30 neu gost lawn yr arhosiad, pa bynnag un yw’r un isaf, gyd-fynd ag ef. Mae’r blaendal (nad oes modd ei ad-dalu) yn rhan o’r cyfanswm ffi, a bydd rhaid talu’r gweddill wrth gyrraedd.
  • Derbyniwn daliad gyda chardiau debyd/credyd cydnabyddedig (Visa/Mastercard/Maestro).
  • Rhaid i chi gofnodi’ch enw yng nghanolfan ymwelwyr Parc y Fferm, gallwch ganfod yr amserau agor ar ein gwefan. Os byddwch yn cyrraedd y tu allan i’r oriau hyn, rhaid i chi roi gwybod i ni er mwyn i ni allu gwneud trefniadau i chi gofnodi.
  • Dim mwy na 6 unigolyn fesul llain.
  • Rhoddir mynediad trwy ganiatâd y perchnogion neu eu cynrychiolwyr yn unig.
  • Ni all unrhyw un o dan 18 oed aros ar y gwersyll heb gwmni oedolyn cyfrifol dros yr oedran hwnnw. Cyfrifoldeb y rhieni neu’r oedolyn yw pob person dan 18 oed a dylid eu goruchwylio drwy’r amser.
  • Os byddwch yn canslo’ch lle, ni fydd y blaendal yn cael ei dalu’n ôl i chi. Fodd bynnag, os rhoddir mwy na 72 awr o rybudd o ganslo cyn cyrraedd (7 niwrnod o rybudd yn achos gwyliau cyhoeddus ac ysgol), gellir ei symud ymlaen i ddyddiad arall yn ystod yr un tymor os gwneir hynny cyn pen 48 awr o’r trefniant cyntaf a ganslwyd.
  • Rhaid i chi wersylla yn ffiniau’r llain wedi’u marcio’n glir. Gallai methu â gwneud hynny arwain atoch yn gorfod symud eich pabell neu gerbyd.
  • Mae holl ddefnyddwyr y gwersyll yn gyfrifol am ddiogelwch unrhyw eiddo personol neu eiddo ffisegol eraill maen nhw’n dod gyda nhw i’r gwersyll ac mae’n rhaid wrth ofal a sylw dyledus i warchod eu diogelwch a’u lles personol eu hunain ar hyd eu hamser ar y gwersyll.
  • Ni fydd Ceredigion Leisure Ltd. yn atebol i chi nac i unrhyw un o ddefnyddwyr eraill y gwersyll os bydd unrhyw ddifrod, colled neu anaf wedi’u hachosi gan eich gweithredoedd esgeulus neu hepgoriadau chi neu rai unrhyw ddefnyddwyr eraill y gwersyll.
  • Rydych chi’n ymroi, ar eich rhan chi eich hun a holl aelodau’ch parti, i arsylwi rheolau’r gwersyll fel y dengys yn y gwersyll ac fel y darperir i chi wrth gofnodi.
  • Rhaid gwagio toiledau cemegol a dŵr gwastraff yn y lleoedd a ddarperir ac nid ar lain y garafán/pabell.
  • Rhaid cael gwared ar sbwriel yn y biniau a ddarperir.
  • Parcio: Lleiniau carafannau teithio a phebyll – caniateir un car fesul llain. Gellir parcio cerbydau ychwanegol ym maes parcio Parc y Fferm.
  • Mae croeso i gŵn ond rhaid iddynt gael eu cadw ar dennyn byr drwy’r amser. Rhaid i chi glirio baw eich ci.
  • Ni chaniateir beiciau a sgwteri ar y ffyrdd o gwmpas Parc y Fferm yn ystod yr oriau agor ac eithrio i fynd i mewn i’r safle neu ei adael.
  • Ni chaniateir tanau ar y tir na thanau gwersyll. Caniateir tanau a barbeciws ar draed.
  • Er mwyn sicrhau’ch mwynhad o’r gwersyll, gofynnwn i bob gwersyllwr gadw’r sŵn i lefel resymol bob amser, ac i isafswm lefel rhwng 11:00pm a 06:00am.
  • Os byddwch chi neu unrhyw aelod o’ch parti’n torri’r telerau hyn neu unrhyw un o’r rheolau a ddengys yn y gwersyll yn ddifrifol, gallwn derfynu’ch arhosiad heb ad-daliad. Os oes modd gwneud iawn am y toriad, yna byddwn yn rhoi cyfle i chi cyn terfynu’ch arhosiad i unioni’r toriad o fewn cyfnod rhesymol. Yn dibynnu ar natur y toriad, gallai’r cyfnod hwn fod yn fyr – er enghraifft, bydd rhybudd yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gofyn am welliant ymhen un awr.

Os oes gennych unrhyw ofidiau am eich arhosiad, dywedwch wrthym yn syth – mae’n haws i ni eich helpu chi cyn i chi adael y gwersyll. Gallwch ddweud wrth staff canolfan ymwelwyr Parc y Fferm.