Gwbert, Aberteifi, Gorllewin Cymru, SA43 1PR
01239 623637
E-bostiwch ni

Cwestiynau Cyffredin

A allaf ddod â’m ci i Barc y Fferm?

Gallwch. Mae croeso i gŵn, ar yr amod y cânt eu cadw ar dennyn byr drwy’r amser. Nid oes gan gŵn (ar wahân i gŵn cymorth) hawl i fynd i mewn i’r caffi dan do ond cânt ganiatâd i ardal batio awyr agored y caffi, lle darperir powlenni o ddŵr. Peidiwch â gadael eich ci yn eich car.

Oes modd parcio am ddim?

Oes. Mae gennym faes parcio mawr ar y safle sy’n rhad ac am ddim, sy’n cynnwys ardal barcio i bobl anabl. Mae gennym le parcio beiciau y tu allan i ddrws blaen y ganolfan ymwelwyr.

Ydych chi’n derbyn cardiau credyd a debyd?

Ydyn, ond mae’n rhaid gwario £5 o leiaf. Nid ydym yn derbyn American Express.

Oes gennych beiriannau ATM?

Nac oes yn anffodus, ond mae sawl un yn Aberteifi, sef ein tref agosaf sydd o fewn 10 munud i ffwrdd yn y car.

Oes unrhyw beth y dylwn i ei wybod os ydw i’n feichiog?

Dylai menywod beichiog osgoi cyswllt gydag ŵyn a mynnod geifr newydd anedig, ac fel pob ymwelydd, sicrhewch eich bod yn golchi’ch dwylo’n aml ac yn drwyadl gyda dŵr a sebon gwrthfacterol.

Pa gyfleusterau sydd gennych i fabanod?

Mae gennym gyfleusterau newid cewynnau. Rydym yn hapus hefyd i gynhesu poteli neu fwyd babi i chi.

A allaf ddod â chadair wthio?

Gallwch, mae’r llwybrau cerdded yn laswelltog ac ychydig yn lympiog ac yn anwastad ond mae’r rhan fwyaf o bobl yn ymdopi heb unrhyw broblemau.

A allaf adael fy mhlant yno a’u casglu’n nes ymlaen?

Rhaid i bob plentyn dan 14 oed fod yng nghwmni oedolyn (18 oed neu’n hŷn).

A allaf ddod â phicnic?

Gallwch, mae gennym ddigonedd o fyrddau picnic yn yr awyr agored gerllaw’r maes chwarae ac yn agos at y ganolfan ymwelwyr. Yn anffodus, nid oes gennym ardal bicnic dan do ar hyn o bryd, ac nid ydym yn caniatáu picnics yn y ganolfan ymwelwyr nac ar batio’r caffi.

Oes gennych becyn Cymorth Cyntaf?

Oes, mae gennym becynnau cymorth cyntaf ar y safle; rhowch wybod i aelod o staff os bydd angen cymorth arnoch. Nid oes gennym hawl i roi meddyginiaeth na chadw meddyginiaeth ar y safle.

Sylwch gan ein bod ni’n safle trwyddedig, ni chewch ddod â’ch diod feddwol eich hun i mewn i Barc y Fferm.

A allaf fwydo’r anifeiliaid?

Gallwch, mae bagiau o fwyd anifail ar gael i’w prynu am 70c wrth gyrraedd desg y dderbynfa. Peidiwch â dod â’ch bwyd eich hun i fwydo’r anifeiliaid.

Beth ddylwn i wisgo?

Rydym ar bentir ar yr arfordir, felly rydym yn argymell dod â haenen ychwanegol bob amser oherwydd gall fod yn fwy gwyntog a ffres nag ydy hi ymhellach i mewn i’r tir.
Gwisgwch esgidiau synhwyrol oherwydd atyniad gwledig ydyn ni gyda llawer o gerdded a hwyrach y bydd rhai llwybrau anwastad. Os mai dechrau’r tymor fydd hi neu os bydd cyfnod hir o wlypter wedi bod, dewch ag esgidiau glaw er mwyn i chi allu neidio yn y pyllau dŵr!

Rydw i wedi gadael rhywbeth ar ôl ar Barc y Fferm, beth ddylwn i ei wneud?

Cysylltwch â ni ac os na allwn ni ddod o hyd i’r eitem a gollwyd, byddwn yn cadw disgrifiad ar ein cofnodion.

Oes WIFI ar gael ar y safle?

Rydym yn gobeithio gallu cynnig hwn yn fuan, ar ôl i’r bwriad i gyflwyno bandeang cyflym iawn ar bob aelwyd yng Nghymru gael ei gwblhau!

Ydych chi’n gwerthu talebau rhodd?

Ydyn, cysylltwch â ni i gael manylion. Gellir cyfnewid y talebau rhodd wrth ddesg y fynedfa, yn y caffi, yn y siop roddion neu at ddibenion gwersylla.

Ydy Parc y Fferm yn hawdd i gadeiriau olwyn fynd ato?

Gweler ein tudalen Hygyrchedd i gael y manylion yn llawn.

Ydych chi’n cynnig tocynnau teuluol a thocynnau tymor?

Nid ydym yn cynnig tocynnau teuluol, gan fod prisiau unigol i bob grŵp oedran. Nid ydym yn cynnig tocynnau tymor ar hyn o bryd ond byddwn yn eu cyflwyno yn y dyfodol. Gweler ein tudalen Amserau Agor a Phrisiau ar gyfer ein holl brisiau mynediad.

Allwn ni ddefnyddio’r caffi heb ymweld â gweddill Parc y Fferm?

Gallwch, ac nid ydym yn codi’r ffi fynediad i oedolion wneud hynny, ond codwn am unrhyw blant sy’n dod gyda nhw gan fod hyn yn eu galluogi i ddefnyddio’r ardaloedd chwarae wrth i chi fwynhau’ch pryd. Gwnewch yr aelod o staff wrth y fynedfa’n ymwybodol o’ch bwriad i ddefnyddio dim ond y caffi.