Rydym yn falch o ddefnyddio cynnyrch a chyflenwyr Cymreig ble bynnag y bo’n bosibl. Gweinwn frechdanau, baguettes, paninis a thatws pob ffres ynghyd â chawliau cartref a phrydau ysgafn. Mae dewis o de, coffi, diodydd oer, cwrw a gwin ar gael hefyd. Hwyrach y cewch eich temtio i gael hufen iâ neu un o’n cacennau cartref blasus. Cynigiwn fwydlen i blant hefyd, a dydyn ni ddim wedi anghofio am ein hymwelwyr bychain i barc y fferm – rydym yn hapus i gynhesu bwyd babi a photeli ac mae gennym ddigon o gadeiriau uchel.
Ceisiwn ddarparu ar gyfer alergenau a chynigiwn ddewisiadau heb glwten a llaeth. Gofynnwch am weld ein rhestr alergenau neu ewch i siarad ag aelod o staff os oes gennych unrhyw ymholiadau cyn rhoi’ch archeb. Gwnawn ein gorau i ddarparu ar eich cyfer.