Gweler isod atebion i rai cwestiynau cyffredin. Os na allwch ddod o hyd i ateb i’ch ymholiadau, cysylltwch â ni ar camping@cardiganisland.com
Cwestiynau Cyffredin

Pa mor fawr yw’r lleiniau?
Mae’r lleiniau rhyw 6m x 12m gyda lle parcio i 1 car. Gellir gadael ceir ychwanegol ym maes parcio Parc y Fferm yn rhad ac am ddim.

Allwn ni ddod â barbeciw neu gynnau tân gwersyll?
Mae croeso i chi ddod â barbeciw neu bydew tân ar ei draed ond mae’n RHAID iddyn nhw fod wedi’u codi oddi ar y glaswellt. Mae blociau ar gael yn y caban golchi llestri. Fodd bynnag, nid ydym yn caniatáu tanau ar y ddaear na llusernau Tsieineaidd.

Alla i ddod â’m ci?
Mae croeso i gŵn aros ar y gwersyll a chodir ffi o £1 y noson amdanynt. Rhaid peidio â gadael cŵn ar eu pen eu hunain a rhaid iddynt gael eu cadw ar dennyn byr bob amser ar y gwersyll ac ar Barc y Fferm. Rhaid i chi glirio baw eich ci yn syth. Ni chaniateir cŵn (ar wahân i gŵn cymorth) i mewn i’r caffi dan do ond mae ganddynt hawl i fod ar ardal batio awyr agored y caffi lle darperir powlenni o ddŵr.

Oes isafswm arhosiad?
Na, gallwch aros am 1 noson yn unig os dyna yw’ch dymuniad.

Oes amser cofrestru a gadael?
Bydd eich llain ar gael o 1pm ymlaen (yn gynharach yn ystod y gwyliau ysgol). Gofynnwn, os yn bosibl, i chi gyrraedd cyn i Barc y Fferm gau am 6pm er mwyn i chi allu cofrestru wrth Ddesg y Fynedfa pan gyrhaeddwch chi. Os byddwch yn cyrraedd ar ôl yr amser hwn, rhowch wybod i ni er mwyn i ni allu gwneud trefniadau. Rhaid i chi gyrraedd cyn 11pm er mwyn peidio â tharfu ar y gwersyllwyr eraill. Yr amser gadael yw 12pm ond mae croeso i chi aros ym Mharc y Fferm tan iddo gau.

Oes rhaid i ni dalu i fynd i mewn i Barc y Fferm?
Nac oes, mae mynediad diderfyn i Barc y Fferm wedi’i gynnwys ym mhris eich arhosiad.

A allaf ddewis fy llain?
Byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu ar gyfer unrhyw ofynion felly, ond yn anffodus, ni allwn sicrhau’r rhain, yn enwedig yn ystod adegau prysur fel gwyliau ysgol.

Ydy’r cysylltiadau’n cymryd plygiau tŷ safonol?
Nac ydyn, bydd angen i chi gael cebl cysylltu gyda chysylltiad soced priodol. Mae’r rhain ar gael o siopau gwersylla, a gellir eu prynu gyda socedi’r cartref ar ochr y defnyddiwr i’r bobl yn y pebyll.

A allaf gael ymwelwyr ar y safle?
Gallwch, ond os byddant yn penderfynu aros dros nos neu fynd i Barc y Fferm, rhaid iddynt dalu’r ffi berthnasol.

Oes angen imi ddod â gwastatawyr?
Oes, gan fod y gwersyll ar oleddf ysgafn sy’n wynebu’r môr.

Oes gennych WiFi yn y gwersyll?
Dim eto yn anffodus. Oherwydd diffyg mynediad i fand eang cyflym iawn yn ein hardal wledig, ni allwn gynnig hyn i gwsmeriaid ar hyn o bryd.

Ydych chi’n gwerthu nwyddau a siarcol ar y safle?
Nac ydyn, ond mae siopau cigydd a bara lleol hyfryd ar gael yn ein tref agosaf, sef Aberteifi, ynghyd ag archfarchnadoedd Tesco ac Aldi.

Oes gennych beiriannau golchi dillad ar y safle?
Nac oes, mae golchdy (Cardi Launderette) yn ein tref agosaf, Aberteifi.

Ydych chi’n gwerthu nwy gwersylla?
Nac ydyn, ond mae rhai lleoedd yn yr ardal yn gwerthu nwy.

Oes yna rywle i fynd am bryd o fwyd gyda’r nos?
Mae llawer o leoedd i fwyta yn yr ardal leol ac mae dau westy o fewn pellter cerdded sy’n gweini prydau gyda’r hwyr.