Rydym ym mhentref bach Gwbert sydd 3 milltir (10 munud) y tu allan i dref Aberteifi yng Ngorllewin Cymru.
Dilynwch yr arwyddion twristaidd brown ar gyfer ‘Parc Fferm Arfordir Ynys Aberteifi’ o Aberteifi, gan fod ein cod post yn mynd â chi i Glwb Golff Gwbert felly gallai offer llywio â lloeren eich tywys i’r man anghywir!
Yn y Car
O Dde Cymru a De Lloegr
Ewch ar yr M4 i Gaerfyrddin. Yna dilynwch yr A484 i Aberteifi. Dilynwch y B4548 i Gwbert. Yna dilynwch ein harwyddion brown i Barc y Fferm.
O Aberystwyth
Dilynwch yr A487 i Aberteifi. Dilynwch y B4548 i Gwbert. Yna dilynwch ein harwyddion brown i Barc y Fferm.
O Ddinbych-y-pysgod
Dilynwch yr A478 i Aberteifi. Dilynwch y B4548 i Gwbert. Yna dilynwch ein harwyddion brown i Barc y Fferm.
O Hwlffordd
Dilynwch yr A487 i Aberteifi. Dilynwch y B4548 i Gwbert. Yna dilynwch ein harwyddion brown i Barc y Fferm.
Cwmnïau Tacsi Lleol
Robin’s Taxis: 01239 612190
Cardi Cabs: 01239 621399
Home James: 01239 841258
Ar Gefn Beic
Mae gennym resel feiciau y tu allan i brif fynedfa’r ganolfan ymwelwyr.
Ar y Bws
Mae cludiant cyhoeddus yn gyfyngedig oherwydd ein lleoliad gwledig. Mae arhosfan bws 5 munud i lawr y bryn y tu allan i’r fynedfa ar ben y ffordd ac mae bws y Cardi Bach yn galw dwywaith y dydd. I gael llwybrau ac amserlenni’r gwasanaethau bws lleol, ewch i wefan Richards Brothers.
Ar Droed
Mae’n cymryd rhyw 15 munud i gerdded o Westy’r Gwbert a’r Cliff ym mhentref Gwbert. Mae Llwybr Arfordir Cymru’n mynd heibio i’n ffordd fynediad hefyd ac yn rhedeg ar ran wahanol o’n fferm.
- Parc Fferm Arfordir Ynys Aberteifi
- Gwbert
- Aberteifi
- Ceredigion
- SA43 1PR