Wrth i Barc Fferm Arfordir Ynys Aberteifi barhau i ehangu, bydd cyfleoedd yn codi am waith gyda’r cwmni.
Ein gwaith ni yw gwneud ymwelwyr yn hapus a sicrhau eu bod yn cael diwrnod gwych i’w gofio. Mae gennym ddiddordeb mewn clywed gan bobl ddiwyd, brwdfrydig, hyderus, dibynadwy a chyfeillgar gyda gwasanaeth cwsmeriaid gwych i ymuno â’n tîm. Ar hyn o bryd, mae pob un o’n rolau’n rhai tymhorol o fis Mawrth i fis Tachwedd neu yn ystod gwyliau’r haf ac mewn arlwyo.
Oherwydd lleoliad gwledig Parc Fferm Arfordir Ynys Aberteifi, mae’n rhaid bod gennych fynediad i gludiant dibynadwy.

Bydd ein swyddi gwag yn cael eu postio i’r dudalen hon. Os nad oes gennym swyddi gwag ar hyn o bryd ond bod gennych ddiddordeb mewn ymuno â’n tîm i’r dyfodol, anfonwch eich CV cyfredol gyda llythyr eglurhaol at info@cardiganisland.com
Byddwn yn cadw’ch manylion mewn ffeil am 6 mis os daw swydd addas i’r golwg. Os na fydd swyddi gwag yn codi yn ystod y tymor sydd ohoni, mae croeso i chi roi cynnig arall yn y tymor sy’n dilyn.
Profiad Gwaith
Nid ydym yn derbyn myfyrwyr ar brofiad gwaith ar hyn o bryd.