Rydym yn ddigon ffodus i fyw yn un o ardaloedd harddaf a heb eu difetha Cymru, gyda morlin trawiadol a chymuned Gymraeg ei hiaith ffyniannus. Rydym yn rhan ddeheuol sir Ceredigion, yn agos at y ffin â Sir Benfro.
Mae ein tref farchnad leol, sef Aberteifi o fewn cyrraedd yn y car mewn 10 munud (3 milltir i ffwrdd) ac yn sefyll ar lan afon Teifi. Yno, gallwch ddod o hyd i Gastell Aberteifi, sef man geni’r Eisteddfod a Theatr Mwldan, sydd â sinema a theatr i’r diwrnodau glawog, yn ogystal ag amrywiaeth gwych o siopau a chaffis annibynnol.
Os ydych chi’n ymweld ar ddiwedd mis Ebrill, da chi ewch i weld dydd Sadwrn Barlys, sef digwyddiad unigryw sy’n gweld y ffermwyr yn dangos eu ceffylau trwy’r dref wedi’u dilyn gan geffylau a’u ceirt a hen gerbydau sy’n cynnwys tractorau a cheir.
Mae’r Ŵyl Fawr flynyddol ar ddiwedd mis Mehefin yn ddathliad wythnos o hyd o gerddoriaeth, barddoni a dawnsio. Ceir wythnos garnifal hefyd ar ddiwedd Gorffennaf/dechrau mis Awst sy’n cynnwys Sioe Sirol Aberteifi, a’r Ŵyl Afon a Bwyd ym mis Awst.








Mae 12 traeth dilychwin i ymweld â nhw o fewn taith 30 munud, sy’n cynnwys traethau Baner Las yn Poppit, Tresaith a Llangrannog. Y traeth agosaf yw’r un dan berchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mwnt, sydd 10 munud i ffwrdd yn y car gyda’r eglwys hardd wedi’i gwyngalchu o’r 13eg ganrif yn edrych drosto.
Os ydych chi’n chwilio am gyffro ac antur, gellir trefnu ceufadu ar y môr, arfordira a llawer mwy o weithgareddau yn lleol trwy Adventure Beyond, neu gallwch fynd am daith bywyd gwyllt mewn cwch gyda A Bay to Remember.
Efallai y bydd yn well gennych fwynhau diwrnod yng Nghastell Cilgerran a Chanolfan Natur Cymru, lle gallwch ganŵio ar hyd Afon Teifi yn chwilio am ddyfrgwn, neu gallwch ymweld â’r Pentref Oes Haearn, sef Castell Henllys neu’r Amgueddfa Wlân Genedlaethol yn Nrefach Felindre.
Ymhellach i ffwrdd, ond o fewn awr yn y car, fe welwch Aberaeron i gyfeiriad y gogledd, gyda’i thai Sioraidd prydferth; tref glan môr brysur Ceinewydd lle bu’r bardd Dylan Thomas yn byw ar un tro; neu dref prifysgol Aberystwyth.
O fwrw i gyfeiriad y de, gallwch ddarganfod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro; Bryniau’r Preseli (lle daeth y cerrig gleision a welwch yng Nghôr y Cewri); tref hyfryd Arberth gyda’i siopau annibynnol ac orielau hyfryd; Tyddewi a’i heglwys gadeiriol enwog; porthladdoedd Solfach a Saundersfoot; neu dref gaerog Sioraidd Dinbych-y-pysgod gyda’i thraeth prydferth a llawer o atyniadau teuluol wrth law.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Croeso Cymru, Darganfod Ceredigion, Darganfod Sir Gar neu Visit Pembrokeshire.