Dathlwch barti pen-blwydd eich plentyn ym Mharc Fferm Arfordir Ynys Aberteifi.
Mae ein pecyn parti yn ystod y dydd i Ffermwyr Bychain
(10 plentyn o leiaf) yn cynnwys:
Diwrnod ar Barc y Fferm dan oruchwyliaeth rhieni.
Bag o fwyd anifail i bob plentyn.
Mynediad AM DDIM i un oedolyn fesul plentyn (dau oedolyn i’r plentyn sy’n dathlu pen-blwydd). Mae prisiau mynediad arferol i’w talu gan deulu a ffrindiau ychwanegol.
Cinio pen-blwydd am 12pm, 1:30pm, neu 3pm wrth fwrdd wedi'i addurno yn ein caffi.
Mwgwd anifail i bob plentyn.
Dewis o Fwydlen Boeth neu Fwydlen Oer.
Bydd ein caffi ar agor i gynnig ein bwydlen lawn os bydd unrhyw oedolion am archebu bwyd.
Mae gwahoddiadau parti ar gael i’w lawrlwytho.
Mae ein pecyn parti Ffermwyr Bychain ar ôl ysgol
(10 o blant o leiaf) o 3.30pm tan 6pm yn cynnwys:
Defnydd o’r ardaloedd chwarae dan do ac awyr agored. O gofio’r amser cyfyngedig sydd ar gael mewn parti ar ôl ysgol, nid ydym yn argymell ymweld ag anifeiliaid y fferm ond cewch wneud hynny os dymunwch.
Mynediad AM DDIM i un oedolyn fesul plentyn (dau oedolyn i’r plentyn sy’n dathlu pen-blwydd). Mae prisiau mynediad arferol i’w talu gan deulu a ffrindiau ychwanegol.
Te pen-blwydd wedi’i weini am 4.30pm wrth fwrdd wedi’i addurno yn ein caffi.
Cynigir ein Bwydlen Oer ar gyfer y partïon ar ôl ysgol.
Bydd ein caffi ar agor tan 5pm, gan weini’n bwydlen lawn tan 4pm ac yna diodydd, cacennau a byrbrydau tan 5pm, os bydd unrhyw oedolion am archebu bwyd.
Bysedd pysgod, neu goujons cyw iâr, neu selsig, neu selsig fegan wedi’u gweini gyda sglodion a ffa pob neu pys. Hufen iâ.
Bwyd Parti
Bwydlen Oer
Platiau o frechdanau cymysg (ham, caws, tiwna a jam) Selsig bach Darnau moron a chiwcymbr Powlenni o greision Bysedd siocled Ffrwythau ffres Hufen iâ
Mae’r ddau ddewis bwydlen yn cynnwys jygiau diddiwedd o ddiod oren, afal a chyraints duon a dŵr. Mae croeso ichi ddod â’ch cacen pen-blwydd gyda chanhwyllau eich hun a byddwn ni’n hapus i’w torri i fyny er mwyn i chi eu dosbarthu i’ch gwesteion i fynd adref gyda nhw (dewch â’ch napcynnau eich hun i lapio’r gacen).
Rhowch wybod i ni am unrhyw alergeddau neu ofynion dietegol cyn cyrraedd a byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu ar eu cyfer.
Dewisiadau ychwanegol
Mae modd archebu’r rhain yn uniongyrchol gyda’n ffrindiau yn:
Mae’r pris fesul plentyn a rhaid cael o leiaf 10 plentyn fesul parti.
Rhoddir mynediad am ddim i un oedolyn fesul plentyn (dau oedolyn i’r plentyn sy’n dathlu ei ben-blwydd). Mae prisiau mynediad arferol i’w talu gan ffrindiau a theulu ychwanegol.
Bydd pris o £4.50 y pen yn cael ei godi ar westeion parti dan 2 flwydd oed.
Mae angen blaendal o £20 adeg archebu y mae modd ei dalu gydag arian parod neu gerdyn.
Rhaid canslo 48 awr cyn dyddiad y parti neu bydd y blaendal yn cael ei golli.
Rhaid cyflenwi rhestr o westeion 48 awr cyn y parti.
Rhaid talu’r balans sy’n weddill gydag arian parod neu gerdyn ar ôl cadarnhau’r niferoedd wrth gyrraedd Desg y Fynedfa.
Sylwch nad yw staff Parc y Fferm yn goruchwylio partïon, rhaid i rieni oruchwylio’u plant drwy’r amser.
Yn anffodus, ni allwn gymryd archebion parti yn ystod mis Awst gan fod Parc y Fferm yn brysur iawn yn ystod y cyfnod hwn.
Sylwch mai atyniad awyr agored ydym ni yn bennaf. Sicrhewch fod gan blant ddillad priodol ar gyfer y tywydd. Rydym yn argymell esgidiau glaw a dillad gwrth-ddŵr ar gyfer glaw. Byddwn ond yn canslo parti os ystyrir bod y tywydd yn beryglus h.y. mellt a tharanau.