Mae adar môr ac arfordirol fel llursod, huganod, adar drycin y graig, gwylogod a phiod y môr yn rhannu’r awyr gydag adar y ffermdir a chefn gwlad. Nytha gwylanod amrywiol mewn niferoedd mawrion ar Ynys Aberteifi. Gallwch weld mulfrain a mulfrain gwynion yn sefyll ar y creigiau gyda’u hadenydd ar led, yn sychu eu plu.
Mae’r frân goesgoch neu’r frân big-goch brin yn rhannu’r clogwyni gydag aderyn cyflymaf Prydain, sef yr hebog tramor. Mae’r ehedydd mwyfwy prin gyda’i gân bersain yn ffynnu yn y caeau agored, wrth i farcutiaid coch, cudyllod coch a bwncathod gael eu gweld yn gwibio uwchben yn aml. Mae niferoedd mawrion o Wyddau Canada yn llenwi’r awyr gyda ffurfiadau V hir yn ystod diwedd yr haf ac i mewn i’r hydref.
O fis Mawrth ymlaen, mae Parc y Fferm yn fwrlwm o flodau, gan ddechrau gyda’r eithin sy’n llenwi’r aer gyda gwynt cnau coco. Rhwng mis Ebrill a mis Mehefin mae clogwyni Parc y Fferm ac Ynys Aberteifi yn wledd o liwiau – fe welwch ardaloedd mawr o flodau gwyllt yn blodeuo gyda’i gilydd gan greu clytwaith hardd o liwiau glas, fioled a phinc. Wrth i’r rhain bylu, daw planhigion eraill i’r golwg, felly bydd rhywbeth i ddal eich llygaid hyd at ddiwedd yr haf.
Mae amryw famaliaid gwyllt fel llwynogod a moch daear yn byw yn y gwrychoedd ac ymylon caeau’r ffermdir, ac er bod llawer ohonynt yn anifeiliaid y nos, gellir eu gweld nhw, neu arwyddion o’u gweithgarwch yn aml yn ystod y dydd.