Bu gennym angerdd ynghylch gofalu am y tir erioed a hoffem wneud ein rhan fach ni i genedlaethau’r dyfodol.
Mae’n hawdd meddwl nad yw mân newidiadau yn bwysig ond petai pawb yn gwneud rhai o’r pethau hyn, byddai’n dechrau gwneud gwahaniaeth. Fel rhan o’n cynllun gwyrdd, rydym wedi edrych ar ffyrdd o wella pethau ar Barc Fferm Arfordir Ynys Aberteifi.
Dyma rai o’r pethau rydym wedi edrych arnyn nhw:
- Rydym wedi disodli gwellt plastig gyda rhai papur.
- Byddwn yn cyfnewid ein cwpanau diodydd poeth cludo i ffwrdd gyda rhai y mae modd eu compostio erbyn diwedd 2019.
- Mae ein cwpanau diodydd poeth y gellir eu hailddefnyddio wedi’u cynllunio a’u harchebu a byddant ar gael i’w prynu yn ein caffi.
- Dangosodd Cymru’r ffordd gyda’r ffi o 5c y bag a defnyddiwn fagiau papur brown y mae modd eu hailgylchu yn ein siop roddion.
- Caiff 90% o’n gwastraff ei ailgylchu a bwriadwn gynyddu hyn erbyn diwedd 2019.
- Mae llawer o’n goleuadau’n defnyddio bylbiau golau ynni isel.
Fodd bynnag, rydym yn gwneud ein hymrwymiad mwyaf eleni ac yn buddsoddi mewn casgliad o baneli solar 8.3kW a fydd yn cael eu gosod ar do ein canolfan ymwelwyr. Bydd hyn yn ein galluogi i greu llawer o’n trydan ein hunain. Byddwch yn gallu gweld faint o drydan mae’r paneli’n eu creu dan wahanol dywydd ar declyn arddangos digidol yn ein canolfan ymwelwyr.